Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Torfoedd ynfyd eu terfysg,
Un carp hwnt yn crio pysg;
Tra arall, howtra hora!
Crio pys, ffigys, neu ffa.
Gwich ben, a trwy ymenydd,
Dwl dwrf, trwy gydol y dydd;
Trystiau holl Lundain trosti,
A'i chreg waedd ni charai gi.

Os difwyn (gwae ddi'sdafell!)
Clywed, nid oes gweled gwell;
Gweled ynfyd glud anferth
O'r wâr[1] a fynych ar werth;
Gwên y gŵr llys, yspys oedd,
Eddewidiwr hawdd ydoedd;
Cledd y milwr arwrwas,
Dwndwr yr eglwyswr glas:
Cyngor diffeith cyfreithiwr;
Trwyth y meddyg, edmyg wr;
Diod gadarn tafarnwas,
Rhyw saig gan ei frwysgwraig fras:
Rhad werthir pob raid wrthaw,
Corph, enaid, llygaid, a llaw:
Ond na cheir gan ddiweirdeb
Brisiau am eneidiau neb,
Ond enaid anudonwr
A'i chware fials, a chorph hŵr.

Dyna'r gair yn eu ffair ffol,
Dedwydd im' gell a'm didol;
Tua'r nen uwch eu penau,
Ammor it' ymogor mau!
Per Awen i nen a naid,
Boed tanodd i buteiniaid.
Tra fo'm cell i'm castellu,
Ni'm dawr a fo i lawr o lu.
Ni ddoraf neuadd arall,
Ni chlywaf, ni welaf, wall;

  1. Ware.