Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heddyw, pond da fy haddef,
A noeth i holl ddoniau Nef?
Gwelaf waith Ion, dirion Dad,
Gloyw awyr a goleuad;
A gwiwfaint fy holl gyfoeth,
Yw lleufer[1] dydd, a llyfr doeth,
A phen na ffolai benyw,
Calon iach a chorph bach byw;
Deuryw feddwl di orwag,
A pharhaus gof, a phwrs gwag,
A lle i'm pen tan nenawr,
Rhyw fath, drichwe' llath uwch llaw.

CYWYDD Y GWAHAWDD.

Sent from Northolt, Middlesex, to MR. WILLIAM PARRY, Deputy-Comptroller of the Mint, 1755.
[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 126, 136 etc.]

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gwr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf inau.
A thi'n Llundain, wr cain cu,
On'd gwirion iawn dy garu?
On'd tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.
Dithau ni fyni deithiaw
O dref hyd yn Northol[2] draw,
I gael cân (beth diddanach ?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,[3]
A thori, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân.

  1. Goleuni.
  2. 'Northolt, lle yr oedd yn trigiannu ar y pryd.
  3. Yn Twr Llundain, yr adeg hono, y gwneid arian bath.