Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd[1] o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnai ti a gai gân,
Diod o ddw'r, doed a ddel,
A chywydd ac iach awel,
A chroeso calon onest,
Diddichell-pa raid gwell gwest?
Addawaf (p'am na ddeui ?)
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prif-fardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail
A diau pob blodeuyn
A ysbys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Ior-Duw a'i gwnaeth,
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw'r eira, uwchllaw'r arian,
Cofier it' guro cyfoeth
Selyf,[2] y sidanbryf doeth.

Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl,
Diffrwyth fan flodau'r dyffryn,
A dawl[3] wag orfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Yfory oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ol dihoeni haf.

  1. Dyred.
  2. Solomon.
  3. Tawlu-taflu,