Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf doniol yn dweyd ei gwyn a mwyaf ys. gorpionog ei fflangell. Tan ei fynych drallodau a'i aflwyddiant, mae lle i ofni i Oronwy droi i yfed yn y Brifddinas, yr hyn, yn naturiol, ni wnai ond chwanegu ei drybini ac oeri mwy ar ei gyfeillion. Ond ni bydd doeth, na beirdd, yn hir mewn dig; ac y mae'r Awdl Farwnad ysplenydd a ganodd Oronwy i'r "Pen Bardd, Hanesydd," etc., ddeng mlynedd ar ol y "Cywydd i Ddiawl" yn brawf digonol fod tân serch wedi ei ail-gyneu ar yr hen aelwyd.]

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 128.]

Y DIAFOL, arglwydd dufwg,
Ti, du ei drem, tad y drwg,
Hen Suddas, atgas utgi,
Gelyn enaid dyn wyt ti.
Nid adwaen—yspryd ydwyt—
Dy lun, namyn mai Diawl wyt;
Od wyt hyll, ys erchyll son
Am danat y mae dynion,
A lluniaw erchyll wyneb,
A chyrn it' na charai neb;
Ynghyrau'th siol[1] anghywraint
Clustiau mul (clywaist eu maint);
Ac ael fel cammog olwyn;
Hychaidd, anfedrusaidd drwyn;
A'th dduryn[2] oedd, waith arall,
Fal trwyn yr ab, fab y fall;
A 'sgyflfant rheibus gweflfawr,
Llawn danedd og miniog mawr;
Cammog o ên fel cimmwch;[3]
Barf a gait, fel ped fait fwch;
A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd
Crefyll[4] cyd ag esgyll gwydd;
Palfau'n gigweiniau[5] gwynias;
Deg ewin ry gethin gas;
A'th rummen,[6] anferth remmwth,[7]
Fal cettog,[8] was rhefrog rhwth;
Wfft mor gethin y din dau!
Ffei o lun y ffolenau!

  1. Penglog.
  2. Trwyn, pig.
  3. Lobster.
  4. crafell—crafangau.
  5. A flesh fork.
  6. Y bola
  7. Glwth
  8. Satchel, i gadw ced