Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pedrain[1] arth, pydru a wnel:
A chynffon, fwbach henffel,
Llosgwrn[2] o'th ol yn llusgo—
Rhwng dy ddau swrn llosgwrn llo;
A gwrthffyrch tinffyrch tanffagl,
Ceimion wrth y gynffon gagl;
A charnau'n lle sodlau sydd,
Gidwm, islaw d'egwydydd.
Er na nodawdd, o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf;
Dyna'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw, leuawg liw;
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun,
Diawl wyt, os cywir dy lun.

Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd.
Gwir ydyw rhai a gredynt
It' ddwrdio Angelo[3] gynt;
Sorri am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd Annwn;
A thrychu fyth o'r achos,
Hyn a wnai'n nydd yn y nos,
Nes gwneuthur parch, wrth d'arch di,
Satan, a llun tlws iti.

Minau, poed fel y mynych,
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it' gyngor rhagorawl,
Na ddŷd nemawr un i Ddiawl:—

Gŵr y sy, gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy'th genad,
Yna rhuthr, onide, 'n rhad;

  1. Crupper, crwper.
  2. Enw arall ar gynffon.
  3. MICHAEL ANGELO, lluniedydd cywraint yn yr Eidal; ni a ddarllenwn am ffrwgwd a fu rhwng Diawl ag ef, am wneuthur ei lun mor wrthun; a'r caredigrwydd a'r teuluedd a dyfodd rhyngddynt ar ol i ANGELO wneuthur llun prydferth iddo yn ddadolwch am y sarhad o'r blaen.