Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canys os hyn a fyn fo
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gwr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost;
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog[1] ryw faint o'i gastiau.

Dyn yw, ond heb un dawn iach,
Herwr, ni bu ddihirach;
Gŵr o gyneddf anneddfawl:
Lledfegyn,[2] rhwng dyn a diawl;
Rhuo gan wŷn, rhegi wna,
A damnio'r holl fyd yma:
Dylaith[3] i bawb lle delo,
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na diawl;
Ni chewch wyth yn y chwe chant,
O chuchia ef na chachant.
Cofier nad oes neb cyfuwch;
Nid oes radd nad yw SYR uwch;
Marchog oedd ef (merchyg ddiawl);
Gorddwy (nid marchog urddawl);
Marchog gormail, cribddail, cred,
Marchog y gwŷr a'r merched.

Nis dorai, was di-arab,
Na chrefydd, na ffydd, na Phab.
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas,
A'i oreudduw oedd ruddaur
A'i enaid oedd dyrnaid aur.
A'i fwnai yw nef wiwnod,
A'i Grist, yw ei gist a'i god;

  1. Gwerinaidd.
  2. Half-breed.
  3. Dinystr.