Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloeyw-aur glud;
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad ddegwm yn hon;
A'i brif bechod yw tlodi—
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi;
A'i burdan ymhob ardal,
Yw gwario mwn, ac aur mâl;
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân, gloywlan glwys.

Dyna yt, Suddas[1] dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gwr,
Rhyw swrn o'r rhai sy arnaw,
Nid cyfan, na'i draian, draw.
Os fy nghynghor a ddori,
Gŷr yn ol y gŵr i ni.
Nid oes modd it' ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef:
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll,
Ddiawl genyt a ddeil ganwyll.
Yna os daw, nos a dydd,
Gwelwch bob drwg bwygilydd;
Diflin yw, o chaid aflwydd,
I drin ei gysefin swydd;
Gyr byth â phob gair o'i ben
Dripharth o'th ddieifl bendraphen,
Ac od oes yna gŵd aur,
Mál annwn er melynaur,
O gŵr ffwrn dal graff arnaw—
Trwyadl oedd troad ei law;
A'r lle dêl gochel ei gern,
Cau ystwffwl cist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d'orddrws
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiaw un diawl ond ef.

  1. Judas.