Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Elen ty chwaer yn wylaw
Yn drwm, a'm brawd Dafydd draw.
Nid oes neb a gollodd dad,
Neu fam gywir, gwir gariad,
Neu chwaer ŵyl, anwyl eneth,
Yn y byd na wyla beth.

Heddwch i'w llwch lle llechant,
Ac angylion gwynion gant
Gwylient ef yno hefyd
Yn y bedd, tan ddiwedd byd;
 A'u du fedd gwarchadwent fil
Acw yn monwent Llanycil;
A'u cyrff hwy dygent lle cânt
Fyd gwell pan adgyfodant.

I bawb a barcho eu bedd
Deued da yn y diwedd;
A barcho eu bedd a berchir,
Cyn marw ceiff hwnnw oes hir.
Sawl a blanno arno ir—
Lysiau, ef a hwylusir
Yn ei amcan; buan bydd
Ei glod ef drwy y gwledydd;
A phan fo marw hwnnw 'n hen,
A'i roi yn y ddaearen,
Ei fedd ef un fodd a fo
A gwyrdd ddail teg i'w urddo.