Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

[Ganwyd Charles Saunderson (Siarl Wyn o Benllyn) yn y Bala yn 1819. Un o deulu
y Robert Saunderson, ddaethai i'r Bala i argraffu ar anogaeth Mr. Charles oedd.
Gwr ieuanc hawddgar ac athrylithgar ydoedd,—

"Ail cwrel ar yr eira gwyn oedd rhosyn tlws dy rudd,
Dy ddawn a gadd wallt aur yn do, O nid anghofio fydd."


Bu farw o'r geri marwol,[1] yn New Orleans, Hydref 24, 1832.]

IOAN TEGID.

IOAN, wr o iawn araith,
Golud ac urdd gwlad ac iaith
Cymru hen, y Cymro hardd,
A gwiw erfai gywirfardd;
Nid er mawl, na d' aur melyn,
Y gwas hardd, y gweuais hyn;
Ond o union fron ddi frad,
Sy'n curo o swyn cariad;
Cariad i fy hen wlad hon,
I Degid a'm cym'dogion;
A thra pery hynny'n hon,
Gyfaill, cei hybarch gofion;
Cefnogydd a llywydd llên #
A fuost i fy awen;
Yn hoff fardd i'm hyfforddi,
A thra mwyn athraw i mi:
Gwna'm mant, am y mwyniant mawr,
Dy foli hyd fy clawr.
Heddyw pwy sy'n fwy haeddawl,
A phwy mwy a gaiff y mawl?
Mwy gwr nid oes am gronni dysg.
A threiddiawl ieithwr hyddysg:

  1. Colera