Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er bod aur ac urddas ym mhalas gwr mawr,
A gwych addurniadau, a gemau teg wawr,
Mae gem mwy disgleirwych, hyf eurwych hardd fâd,
A hon yw boddlonrwydd ym mhwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.


Boed i mi gael trigo 'n hyf yno hyd fedd,
Yn foddlon mewn digon, a hoewlon mewn hedd
A boed im anadlu fy olaf yn fâd,
Lle anadlais gyntaf, sef bwthyn fy nhad.

Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.


GADAEL GWLAD.

Ar y dôn "AR HYD Y NOS."

Yn fy mron y mae trychineb,
Wrth adaw 'n gwlad,
Rhed afonydd hyd fy wyneb,
Wrth adaw 'm gwlad,
Gadael rhiaint hoff caruaidd,
Gadael hen gyfeillion mwynaidd,
Gadael gwlad yr awen lathraidd,
Wrth adaw 'm gwlad.

Gadael gwlad y telynorion,
Trwm yw i mi,
Gadael glân rianod Meirion,
Trwm yw imi,
Gadael Gwenfron, gadael Gwyndyd,
Gadael pob diddanwch hyfryd,
Yn eu lle cael môr terfysglyd,
Trwm yw i mi.