Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TEGIDON.

[Ganwyd John Phillips (Tegidon) yn y Bala, Ebrill 12, 1810; prentisiwyd ef yn argraffydd gyda Mr.
Saunderson; yna bu yn arolygu swyddfa y Parch. John Parry, o Gaer; tua 1850 symudodd i
Borthmadog i arolygu swyddfa cwmni llechau, ac yno bu farw, Mai 28, 1877. "Yr oedd ei fywyd," ebe
Glaslyn, "yn llawn o beroriaeth, a diweddodd fel y diweddid anthem, mewn amen dyner a dwys."
Rhowd ef i huno ym mynwent Llanecil, dan yw y gorllewin—"Dyma orweddfan y talentog Tegidon." Gwel Cymru VI. 111.

SIARL WYN.

OCH! fyd y gofidiau! man cerdda yr angau,
A'i eirf yn dryloewon, a'i saethau yn llym.
O'i flaen yn yr ymdrech gwroniaid yn ddiau
A gwympant y'nghanol eu dewrder a'u grym:
Pa le mae cyfeillion llon oriau fy mabiaeth.
A hoffwn eu cwmni ym mhob rhyw chwar'yddiaeth?
Yfasant o chwerwon wyllt ffrydiau marwolaeth,
Diang'sant gan gyfrif y byd yma'n ddim.

Ow Siarl! mae y newydd am awr dy farwolaeth
Yn gwneuthur i'm calon och'neidio yn brudd;
A gweled y llwybrau gerddasom ni ganwaith,
Yn dwyn rhyw adgofion i'm meddwl y sydd;
Doe yn ein hafiaeth yn llon ein hwynebau,
Heddyw ar wahan gan rwygiad yr angau;
Doe yr adroddai ei gyfansoddiadau,
Heddyw yn ddistaw mewn gwely o bridd.

Nid dawn na ffraethineb, na glendid wynepryd,
All gadw draw angau, llymfiniawg ei gledd;
Pe gall'sent ni fyddai fy nghyfaill siriolbryd
Yn llechu yn dawel yn ister y bedd.