Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gresynant dros Eden a'r mawr godwm erchyll.
Ond, yn y distawrwydd yng ngwlad y goleuni,
Tebygaf y gwelaf y Tad yn cyfodi,
Gan alw cerubiaid, seraffiaid, angylion,
Fel y cydymgynghorai yr holl urddasolion;
Dywedai ar gyhoedd," Dynolryw bechasant,
A minnau heb aberth nis rhoddaf faddeuant;
Dywedwch, O dyrfa sancteiddlawn a hawddgar,
Pa fodd y gwneir cymod rhwng nefoedd a daear."
Ni chlywaf un ateb, ni welaf neb digon,
Nid ydyw eu heinioes yn eiddo'r angylion;
Cyfiawnder y Duwdod sydd wedi ei ddiglloni
Oherwydd i'r gyfraith gan ddyn gael ei thorri.
Ond gwelaí ail berson y Drindod yn codi,—
Gan ddweyd,—Fy anwyl—Dad, mi fentraf, os mynni;
I'r ddaear disgynnaf, a gwisgaf ddynoliaeth,
A iawn i Ti dalaf drwy ddioddef marwolaeth;
A hefyd disgynnaf i ddyfnder y beddrod.
Er trefnu ffordd gyfiawn i faddeu pob pechod,
Mi fynnaf ogoniant i'th enw'n dragwyddol
O rasol achubiad eneidiau anfarwol.'
Ah! Dacw lawenydd anrhaethol yn codi,
Wrth ganfod y wawr-ddydd ysbrydol yn torri;
Mae'r haul yn pelydru, a'r t'wllwch yn cilio,
A thannau y nefoedd drachefn yn adscinio;
Mor felus chwareuant eu tonau newyddion,
Moliannu y Duwdod am achub plant dynion;
Dechreuwyd ar donau na dderfydd eu canu
Tra byddo y Duwdod ei hun yn hanfodi.
A hwythau, ellyllon y pydew diwaelod,
Siomedig y ffoant, yn ddirfawr eu syndod,
Wrth weled y Drindod yn estyn trugaredd
I ddyn pechadurus drwy faddeu ei gamwedd.