Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ROGER EDWARDS.

[Ganwyd Roger Edwards yn y Bala yn 1811. Bu farw, wedi bywyd o weithio ac arwain, yn y Wyddgrug, yn 1886. Meddai athrylith i gynllunio pethau newyddion, a nerth i weithio'n ddygn. Efe, yn ei Cronicl yr Oes, gychwynodd lenyddiaeth boliticaidd Cymru'r dyddiau hyn; yn 1845. gyda Dr. Lewis Edwards, cychwynodd y Traethodydd; yn 1846 daeth yn olygydd y Drysorfa. Yr oedd a fyno pobl y Bala lawer a'r Geiniogwerth, gyhoeddid yn Ninbych o 1847 i 1851; ynddi tarawyd tant hollol newydd, fwy naturiol a byw, yn y ddwy gân sy'n dilyn.]

YR AFONIG AR EI THAITH.

AFONIG fechan, fywiog, fad,
Pa le'r ai di?
"Af adref, adref at fy nhad;
Môr, môr i mi!"
Mae'r rhwystrau'n fawr, mae'r daith yn hir,
Mae'r ffordd trwy lawer diffaeth dir;
Gwell iti oedi'r hynt, yn wir;
O aros di!
"Na, na, nid all nac anial maith,
Nac unrhyw fryn na bro ychwaith,
Fy rhwystro i gyrraedd pen fy nhaith:—
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, aros! Paid
A choledd twyll;
Fe all mai troi yn ol fydd raid—
O cymer bwyll;
O'th flaen mae'r mynydd uchel, serth,
A'i ddringo ef nis gall dy nerth,
I'r yrfa hon beth wyt yn werth?
O aros di!