Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Er mynydd mawr ni lwfrhaf,
Ond heibio iddo yn ddiddig af—
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, yma yn awr
Da yw dy fod;
A pham y mae am gefnfor mawr
Dy ddyfal nôd?
Mae'th eisieu ar y felin draw,
Ac ar y weithfa wlan gerllaw;
Cyd-ddeisyf wnant yn daer ddidaw,
O aros di.
"Gweinyddaf arnynt wrth fynd trwy,
Ac ar laweroedd gyda hwy,
Er hyn fy llef a fydd fwy, fwy,
Môr, môr i mi!"

Afonig fechan, peraidd sawr
Sydd ar dy lan,
Ac mae'r planhigion gwyrdd eu gwawr
Yn harddu'r fan;
Mae'r helyg ystwyth uwch dy donn,
A'r blodau hoff o'th gylch yn llon,
Yn dweyd, gan bwyso ar dy fron—
O aros di!
"Cant fy nifyrru ar fy nhaith,
Ond myned rhagof fydd fy ngwaith,
Nes myned adref dyma'm iaith,—
Mor, mor i mi !"

Afonig fechan, hardd i ni
Dy wedd yn awr;
Ond beth a ddaw o honot ti
Mewn dyfnder mawr?