Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MYFYRWYR Y COLEGAU.

[Bu'r Bala yn gartref i golegau gweinidogion yr Anibyn— wyr a'r Methodistiaid er dyddiau Lewis Edwards a Michael D. Jones. Y mae Coleg y Methodistiaid yno eto. Tynnodd y colegau hyn wyr fel John Parry, Ap Vychan, Ioan Pedr Thomas Lewis, Thomas Charles Edwards, a Hugh Wil— liams, i fyw i'r Bala. Tynasant hefyd lu o efrydwyr, llawer o honynt yn feirdd da. Y mae llawer o'r rhain, ac o bregeth— wyr ddeuai ar bererindod i'r fro, wedi canu i'r Bala. Detholir dwy gân; un ddigrif ddireidus, ac un ddwys urdd— asol. Awdwr y gân ddireidus yw Glan Alun. Ganwyd ef, sef Thomas Jones, yn y Wyddgrug yn 1811, bu farw yn 1866. Yr oedd yn llenor gwych, ac y mae ei lyfrau,— Fy Chwaer." a'r Ehediadau Byrion"—yn adnabyddus iawn. Yr oedd yn wr cyhoeddus o rym a dylanwad. Awdwr y gan ddwys i Green y Bala yw Huw Myfyr. Ganwyd ef, set Hugh Jones, yn Llanfihangel Glyn Myfyr yn 1845. Daeth i'r Coleg yn 1867. Bu yn Llanrhaiadr—ym— Mochnant ac yn Llanllechid, lle bu farw yn 1891. Yr oedd yn fardd melus a dwys.]

PRYDNAWN SADWRN YN Y BALA.

Cyfansoddwyd y llinellau hyn gan y bardd wrth groesi y Berwyn, lle y cyfarfu âg amryw o'r myfyrwyr yn myned i'w taith Sabothol.

"Mor hyfryd ar y mynyddoedd
Yw traed y rhai a efengylant dangnefedd."

FEL yr amgylchid Salem draw,
A'r hen fynyddoedd ar bob llaw,
Felly yn awr mae'r Bala bach
Yng nghanol cylch o fryniau iach;
Hiraethog, Mignynt, Garneddwen," [1]
A'r Berwyn anial oer ei ben,

  1. Y Garneddwen yw, yn briodol, ac nid y Garnedd Wen. Croesir hi'n awr gan ffordd haearn o Lanuwchllyn i Ddrws y Nant.