Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A bryniau llai yn dringo'r ne,
Fel caerau oesol gylch y lle,
I gadw yr efrydwyr clyd
Yn ddigon pell o swn y byd.
Ac yma maent yn ddygyn iawn,
Yn gweithio o foreu glas i nawn;
Wrth ddiwyd drin yr Hic. Hæc, Hoc,
Hwy ddont yn ysgolheigion toc;
Ac ambell un yn fawr ei fri
A urddasolir â degree.

Ar ol llafurio yn ddifrêg
Trwy'r wythnos am wybodaeth deg,
Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael eu traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn yma a thraw,
Gan ymwasgaru ar bob llaw;
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr efengyl fwyn
I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad.

Bydd weithiau ddau, neu dri, neu fwy,
A cherbyd clyd i'w cario hwy;
Un arall geir yn dod ymlaen
Gan farchog ar gefn ceffyl plaen,
Ac ambell waith fe gwympa'r march
Gan lwyr ddarostwng gwr o barch;
Mae'n anawdd i'r myfyriwr mwyn
Astudio pregeth a dal ffrwyn.

Un arall mwy diogel ddaw
A ffon brofedig yn ei law,
A'i ddull yn apostolaidd iawn
Yn troedio'n gynnar y prydnawn.