Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

D'wedais awn; ond eto hiraeth
Oedd am wlad fy ngenedigaeth.

Barnu 'r oeddwn i pryd hwnnw,
Mai o Feirion gwell im' farw,
Na gweld plant yr hen waedoliaeth,
Yn gwerthu gwlad eu genedigaeth.

Gofid enbyd oedd i'm calon
Weled Cymry 'n troi yn Saeson,
Gan anghofio iaith dda odiaeth,
Iaith hen wlad eu genedigaeth:

Onid trwm fod Cymro'n gallu
Gwadu iaith ei fam anwylgu,
Gwadu'n hyf, er ei Gymreigiaeth,
Ow! hen wlad ei enedigaeth.

Awn i blith yr Indiaid gwylltaf,
Awn i bellder gwledydd poethaf,
Cyn y gwadwn fy nghym'dogaeth,
Neu iaith gwlad fy ngenedigaeth.

Cymro Cymro ! gwaeddaf allan,
Iaith dy fam pan oeddit faban
Honno cara mewn maboliaeth
Gyda gwlad dy enedigaeth.

Tra fo môr, a thra fo mynydd,
Tra fo'n llifo yr afonydd,
Na foed Cymro mewn gelyniaeth
A hen wlad ei enedigaeth.

Merched Cymru, mwyn galonnau,
Glân o bryd a gwedd a geiriau;
Cerwch iaith eich mam yn helaeth,
Hefyd gwlad eich genedigaeth.