Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A Llewelyn, llew olwg,
A'i drem a'th gadwo rhag drwg.
Bydd isel, gochel bob gwyd,
Boddia Dduw, a bydd ddiwyd.


ATEB TEGID.[1]

"I mi bu cyfeillion lawer, rhywiog a chywir, yn deall cyfreithiau caredigrwydd, ac yn eu cadw yn fanwl;
ond UN arbenig o blith y nifer, gan ragori arnynt oll mewn cyfeillach ataf,a ymegniai eu blaenu belled
ag y blaenynt hwy y sawl ag oeddynt o gyffredin serch tuag ataf." —ST. CHRYSOSTOM.

Daniel Daniel! paid a'th gyngor,
Nid oes achos d'wedyd rhagor;
Byth ni wel yr India helaeth
Fi o wlad fy ngenedigaeth.

Wrth im' ddarllen dy benhillion,
Gair gwladgarwch rwygai'm dwyfron,
Fel nad allwn er dyrchafiaeth,
Adael gwlad fy ngenedigaeth.

Dy resymau ynt mor gryfion,
Maent i mi mal dur-forthwylion:
Peraist im er pob ystyriaeth,
Fyw yn ngwlad fy ngenedigaeth.

Oni basai i'th fwyn benhillion
Dreiddio draw trwy giliau'r galon,
Buaswn i, wrth bob argoeliaeth,
Yn mhell o wlad fy ngenedigaeth.

Pan ofynwyd i mi gynta,
A awn o'm gwlad i fyw i'r India,

  1. I Ddaniel Ddu o Geredigion, yr hwn yn 1819 a ysgrifennodd benhillion i ofyn i Degid beidio mynd i'r India Ddwyreiniol