Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac o'r tir gwelir yn gwau
Gwyn eleirch dan gain hwyliau.

Goror y wybrennog Aran,—ynnot
Mae'r enwog Lyn llydan;
Cronni y lli rhwng pump Llan[1]
Ni elli; rhed afon allan:

Dyfrdwyf! trwy aml blwyf, heb aml blas,— a thref
A thrwy lawer dolfras
Y'th hyrddir, maith y'th urddas,
Draw a mawr glod i'r môr las.

Hawddamawr, Lyn mawr Meirion,—Llyn Tegid,
Neud yndid ei wendon?
Drwyot,[2] er dyddiau'r drywon,
Y rhwyf y Dyfrdwyf ei donn.

Lle bu tref[3] dolef dyli'r—Llyn heddyw,
Llon haddef ni welir;
Mwyniant y pysg ei meini
'R dydd hwn, a'i hystrydoedd hir.



I DANIEL SILVAN EVANS.

(Daniel Las) ar ei fynediad i Goleg Dewi Sant.

Llonna byth o'th fodd yn Llanbedr—asgen
Ni chei; dysg yn hyfedr,
Ac am dy ddysg, a'th gymedr,
Mawl Dduw, nid Pawl, ac nid Pedr.


  1. Llanuwchllyn, Llangower, Llanecil, Llanfor, Llandderfel, —sef pumplwy Penllyn.
  2. Credid fod afon Dyfrdwy yn rhedeg drwy'r llyn heb ymgymysgu â'i ddwr.
  3. Dywedir fod yr hen Fala wedi ei llyncu gan y llyn.