Gelyn yr iaith Gymraeg, dywed im' pa ham
Y mynnit in' anghofio iaith ein mam?
Nid yw y Saesneg, ddyn, ond iaith er doe.
Tra mae'r Gymraeg yn iaith er dyddiau Noe.
"Y Saesneg sydd yn well, mwy perffaith iaith,"
Yn well! mwy perffaith! nid yw hyna'n ffaith.
"Gwell yw'r iaith Saesneg nag un iaith o'r byd."
Taw; geiriau benthyg ei geiriau bron i gyd.
"Saesneg, boneddig yw, yn haeddu clod."
A hi mor glytiog, sut gall hynny fod?
Foneddig yw'r Gymraeg; a'i geiriau bob yr un,
Ynghyd â'u gwreiddiau, ynt eiddo'r iaith ei hun.
"Ni chlywir yn Gymraeg ond swn Ch ac LI;
Melus yw'r Saesneg; ac mae'n swnio'n well."
O taw a'th glebar; ond it' ddal ar lais,
A si yr S y sydd o hyd yn iaith y Sais;
Cei weled yn y fan mai llawer gwell
Na si si yr S yw sain yr Ch a'r Ll.