Tudalen:Beirdd y Bala.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Iaith y Sais, iaith prynu a gwerthu yw."
Ni thwyllai Sais un Cymro yn ei fyw;
E bryn, e werth, â'r Sais mewn unrhyw ffair,
Mae'n deall iaith y farchnad air am air.

"Y Cymry a'r Saeson gwell eu bod yn un."
Hwy allant fod er cadw eu hiaith eu hun.

"Nid da bod dwyiaith mewn un wlad fal hon,"
Gad heibio'r Saesneg, dysg Gymraeg yn llon.

"Mynnwn pe Saeson fyddai'r Cymry oll,"
Saeson fyddant pan el eu hiaith ar goll.

"Daw'r dydd y try y Cymry yn Saeson pur."
Yn y dydd hwnnw y try y mêl yn sur.

"Mae ymdrech mawr, yn wir mae llawer cais,
I gael gan Gymro ddysgu iaith y Sais."
Er maint yr ymdrech, ac er maint y cais,
Cymro fydd Gymro eto; a Sais yn Sais.

"Mae rhai esgobion am ddiffoddi'r iaith."
Ai yn Llandaf mae'r esgob wrth y gwaith?

"Ni waeth i chwi am bwy yr wyf fi'n son.'
Gwaeth fydd i'r wlad o Fynwy deg i Fon.
Os ni chaiff Cymro bregeth yn y Llan
Yn ei iaith ei hun, ymedy yn y fan;
A phwy nis gŵyr fod Cymro'n caffael cam,
Pan ni phregethir iddo yn iaith ei fam?

"Gwyn fyd na chollai yr hen Gymry eu hiaith."
Pe collent hi nid Cymry fyddent chwaith.

Ond pennwn hyn o ddadl, mae yn hwyrhau,
Gan ofyn barn un arall uwch na ni ein dau;
Esgobb Ty Ddewi, gwr o uchel ddawn,
Sy'n deall y Gymraeg yn gywir iawn;