Tudalen:Beryl.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIX

Cofio, cofio mae fy meddwl
Am y cilwg cas,
A achosodd y fath gwmwl
Yn fy wybren las.
—GWILYM WILLIAMS.

DYDDIAU rhyfedd i Beryl a fu'r rhai cyntaf hynny ar ôl ymadawiad Nest. Byrdwn ei gofid oedd fod Nest fach ymhell o'i chartref, yn byw gyda dieithriaid, a hithau heb wybod sut oedd arni, ac yn rhy bell i'w chysuro.

Bore dydd Sadwrn, daeth cerdyn oddi wrth Nest yn dywedyd ei bod wedi cyrraedd yn ddiogel ac yn addo llythyr ddechrau'r wythnos. Daeth hwnnw, ac ynddo hanes manwl a sŵn hiraeth. Yr oedd hi'n lletya mewn tŷ hardd iawn. Yr oedd yno dair o ferched eraill. Yr oeddynt hwythau i gyd yn dysgu canu. Yr oedd ganddi hi ystafell wely fach, fach, iddi ei hun. Mrs. Fraser oedd enw gwraig y tŷ. Yr oedd rywbeth yn debyg i Mrs. Mackenzie. Caent eu bwyd gyda'i gilydd i gyd, Mrs. Fraser hefyd, a'r forwyn yn gweini. Mary oedd enw'r forwyn. Caent eu gwersi mewn ystafell fawr ar y llofft. Yr oeddynt yn mynd i ddysgu pethau eraill heblaw canu. Caent wybod mwy yn y llythyr