Tudalen:Beryl.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef gan ei fod yn ei ymyl. Edrychodd ar y cap yn syn wrth ei ddal, a rhwbio'r defnydd rhwng ei fys a'i fawd. Yr oedd rhyw bapur yno. Edrychodd ar du mewn y cap, a phawb yn ei wylio erbyn hyn. Yr oedd tac neu ddau wedi datod yn y leinin. Gwthiodd Mr. Harris y papur oni ddaeth i'r golwg. Tynnodd allan o flaen y cwmni syn ddau bapur punt!

Eric!" ebe Mr. Hywel, a chodi o'i gadair mewn cyffro. Methodd ar y funud â dywedyd gair ymhellach. Edrychai Eric mor syn ag yntau, a dywedodd:

Ni wn i ddim amdanynt, syr. Rhywun heblaw fi sydd wedi eu rhoi yna.

"Pwy yn y byd ond ti a'u rhoes yna?" ebe Mr. Hywel, mewn llais ofnadwy. Dyma dy ddiolch i mi am wneud cymaint trosot!

"Mr. Hywel," ebe Eric, a'i wyneb yn welw iawn, "a a ydych yn credu fy mod i wedi eu dwyn? A ydych yn credu imi ddwyn unrhyw arian erioed?"

"Beth wnaf fi ond credu? Dyma ti wedi dy ddal! Ac yn edrych ac yn siarad fel angel! Mae arnaf ddigon o awydd galw'r plisman yma."

"Hynny a fyddai orau, syr."