Tudalen:Beryl.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei law. Talai rhai o gwsmeriaid Siop Hywel am eu nwyddau mewn symiau bychain bob wythnos nes talu'r pris yn llawn. Gwaith Stanley ac Eric, bob yn ail ddydd Llun, oedd casglu'r symiau hyn. Yr oedd arian Stanley eisoes wedi eu rhoi i mewn a'i gyfrif yn gywir.

"Felly, ni buost ti'n agos i'r til heddiw," ebe Mr. Hywel. "Beth amdanat ti, Bil?" "Nid wyf fi wedi bod yn y siop o gwbl wedi'r bore pan oeddwn yn glanhau, a phob man yng nghlo, syr."

"Wel, nawr, chwi eich dau," ebe Mr. Hywel, ac edrych ar Eric a Mr. Harris. "Yn wir, y mae'n gas gennyf ofyn peth fel hyn ichwi, ond y mae'n rhaid ei wneud. A wyddoch chwi, Eric, rywbeth am y ddwybunt yma?"

Yr oedd Eric bron yn rhy gyffrous i ddyfod â gair allan. Aeth ei wyneb yn goch ac yn welw drachefn. Atebodd mewn tôn a swniai'n gwta:

"Na wn, ddim, Mr. Hywel."

Daethai Eric â'i gôt law a'i gap gydag ef, gan ei fod ar fynd adref pan ddaethai'r alwad i fynd at Mr. Hywel. cadeiriau oedd yno. sydyn i'r llawr yn awr.

Rhoesai hwy ar un o'r Llithrodd ei gap yn Cododd Mr. Harris