Tudalen:Beryl.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y mae'r arian sydd yn y til i fod i ateb yn gywir i'r symiau sydd ar y llyfrau. Nid oes dim wedi bod allan o le hyd yn ddi— weddar. Y mae rhywun yn anonest, ac efallai mai rhywun arall a gaiff ddioddef."

"Pam 'rwyt ti'n meddwl y daw dim i ti?" "Am imi wrido heddiw. Nid wyt ti wedi gofyn a wyf yn euog."

"Pe dywedai pawb dy fod yn euog, ni chredwn i ddim o hynny. A pheth arall, ni chredaf y daw niwed i neb a wna'i waith yn ffyddlon ac yn onest."

Aeth pythefnos heibio heb i ddim annymunol ddigwydd yn y siop. Yna un nos Lun, ar ôl diwrnod prysur, yr oedd dwy bunt yn eisiau yn y til.

"Rhaid mynd i waelod hyn y tro hwn," ebe Mr. Hywel, a'i wedd yn dangos cyffro anghyffredin. "Harris, galwch y bechgyn yma."

Safasant yn syn yn ymyl desg eu meistr,— Mr. Harris, Stanley, Eric, a Bil, y llanc a âi â'r parseli allan.

"Nawr, a ŵyr un ohonoch rywbeth am y ddwybunt yma?"

Ymsythodd Eric a gwrido er ei waethaf. "Yn awr y deuthum i'n ôl, syr," ebe Stanley. Yr oedd ei gôt law amdano a'i gap