Tudalen:Beryl.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lleill. Ni chollodd ei thymer ac wylo am y gofid a ddygesid arni. Anwybyddodd y cyhuddiad. Cymerodd yn ganiataol y gallai'r meistr roi gair da i Eric. Teimlai Mr. Hywel mai ef oedd y troseddwr. Dywedodd :

"Yr wyf wedi holi pob un o'r lleill. ŵyr neb ohonynt ddim am y peth. Cafwyd y ddau bapur punt yng nghap Eric. Beth sydd i'w gredu? Dywedwch wrtho am ddyfod yn ôl, Miss Arthur. Yr wyf yn fodlon i'w gymryd yn ôl er mwyn eich tad. Ni bydd rhagor o sôn am y digwyddiad anffortunus yma."

"Diolch ichwi, Mr. Hywel," ebe Beryl. "Dan yr amgylchiadau, y mae dyfod yn ôl allan o'r cwestiwn."

"Plant od, uchel, ond y mae rhywbeth yn nobl iawn ynddynt," meddai Mr. Hywel ynddo'i hun. Ysgydwodd law â Beryl, a dywedyd y byddai'n dda ganddo wneud unrhyw beth a allai drostynt, ac os newidient eu meddwl, y byddai'n dda ganddo roi cynnig arall i Eric.

Bob dydd o'r wythnos ddilynol, bu Beryl ac Eric yn edrych drwy'r hysbysiadau yn y papurau. Yr oedd yno ddigon o leoedd ar gyfer bechgyn mewn siop. Ymgeisiodd Eric am dri'r un pryd. "Yr wyf yn mynd i