Tudalen:Beryl.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymryd y cyntaf a ddaw," meddai. "Hwnnw fydd ar fy nghyfer."

Ar y pumed dydd, daeth ateb o'r lle pellaf o'r tri,—tref fawr yn Lloegr. Derbyniodd Eric y cynnig. Cyn pen tair wythnos ar ôl gadael siop Hywel, yr oedd wedi dechrau ar ei waith,—yn un o gant a hanner yn Siop Fuller, yng Nghaergrawnt (Cambridge).

Y pwnc nesaf oedd cael tŷ, fel y gallai Beryl a Geraint ac Enid ei ddilyn yno. Yr oedd Eric a Beryl wedi trefnu mai hynny oedd i fod. Teimlent mai cam pwysig iawn ydoedd,— mynd allan o'u gwlad i fyw ymysg pobl o genedl arall, yn ddieithr mewn tref fawr. Ond teimlai Beryl fod rhywbeth yn ei gyrru yno. Nid oedd am fyw yn hwy yn ardal Bryngwyn a Llanilin. Nid oedd yn siwr, bellach, mai ffrindiau oedd o'i chylch yno. Gwnaethai ymadawiad sydyn Eric i bobl siarad a holi. Ni wyddai hi pa ystorïau oedd ar led. Tybiai fod pawb yn barnu Eric yn lleidr, ac yr oedd y meddwl yn annioddefol iddi. Felly, er ei chynghori gan lawer i gymryd pwyll, i aros ac ystyried, trefnodd Beryl i fynd. Ysgrifennodd at Eric i erfyn. arno frysio i gael tŷ yn barod iddynt.

Yr oedd cael tŷ mewn tref yn fwy anodd na chael lle mewn siop. Bu'n rhaid bodloni ar