Tudalen:Beryl.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fflat yn y diwedd. Pedair ystafell oedd yn hon,—dwy ystafell wely, un arall i fyw ynddi, a chegin fach, fach, i wneud y bwyd a golchi'r llestri ynddi. Yr oedd grisiau cerrig mawr yn arwain i'r fflat. Byddai dau deulu arall yn byw odanynt, a hwythau ar y drydedd lofft. Rhestr o fflatiau cyffelyb oedd y stryd honno.

Bu Beryl yn ffodus i gael tenant i Faesycoed ar unwaith. Byddai'r rhent a gaent am hwnnw yn help tuag at dalu rhent y fflat. Yr oedd Eric, erbyn hyn, yn ennill digon i'w cadw i gyd mewn bwyd,—yn ôl ei gyfrif ef. Yr oedd cant a deuddeg o bunnoedd o hyd yn y banc. Bu'n rhaid tynnu'r deuddeg allan i helpu at dreuliau'r symud. Yr oedd Maesycoed ganddynt wedyn rhyngddynt â'r gwaethaf. Gellid gwerthu hwnnw os byddai rhaid.

Y dyddiau hynny, gallai Beryl ddywedyd gydag Alun Mabon :

Ar ysgwydd y gwan y daeth pwys.

Arni hi y disgynnodd trefnu popeth ynglŷn â'r symud. Bu cymdogion yn ei helpu, wrth gwrs, ac ar yr un pryd yn ceisio'i digalonni trwy sôn am y gost o fyw mewn tref, ac am yr unigrwydd a'r peryglon yng nghanol pobl ddieithr. Ond pan glywodd un ohonynt yn