Tudalen:Beryl.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sibrwd wrth un arall, heb wybod ei bod hi'n clywed, "Pwy fuasai'n meddwl hyn'na am Eric?" teimlai mai hyfryd iawn a fyddai bod yn ddigon pell o'r ardal a pheidio â gweld neb o'r ardalwyr byth mwy.

Nid oedd ganddi neb i rannu ei gofid â hwy. Yr oedd Geraint ac Enid yn rhy fach, ac Eric a Nest yn rhy bell. Beth na roesai am gwmni siriol Nest! Ofer disgwyl ei gweld mwy ym Maesycoed. Yr oeddynt i symud yn ystod wythnos y Nadolig, a barnwyd y byddai'n well i Nest aros yn Llundain hyd oni allent ei chroesawu i gartref arall.