Tudalen:Beryl.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dda iawn iddi. Nid oedd wedi dechrau canu'n gyhoeddus eto, rhag camarfer ei llais. Dywedai ei hathro y deuai'n gantores fawr.

Ni allai Beryl sôn llawer am ei helbulon ei hunan wrth Nest yn yr amser byr hwnnw,— dim ond deuddydd y bu yno. Gwell oedd peidio â rhoi gofid i Nest. Yr oedd Mrs. Mackenzie am iddi fynd yn ôl nos Lun er mwyn mynd gyda hi i rywle arall ddydd Mawrth. Felly, gadawyd llawer o gwestiynau heb eu holi a llawer o bethau heb eu dywedyd.

Wedi i Nest eu gadael, wylodd Beryl yn chwerw. Yr oedd Mrs. Mackenzie yn ddi- ddadl yn garedig iawn, ac yn gwneud ei gorau i Nest, ond yr oedd wedi dwyn oddi arnynt hwy eu chwaer anwylaf.