Tudalen:Beryl.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXII

"And I promised my early God to have courage
Amid the tempests of the changing years."
—MAX EHRMAN.

AMSER llawn o bryder a fu'r ddwy flynedd nesaf i Beryl. Yr oedd treuliau byw yn uchel iawn yng Nghaergrawnt, yn enwedig yn y gaeaf, pan fyddai'n rhaid cael tân mawr a golau trydan am oriau hir. Gwarient fwy ar fwyd hefyd nag ar y cychwyn, er mai bwyd syml a gaent, ac er bod Beryl mor ddarbodus ag erioed. Gwelent eisiau gardd Maesycoed. Yr oedd yn rhaid prynu popeth yng Nghaergrawnt.

Tyfai Geraint ac Enid yn gyflym. Ai eu dillad yn rhy fach iddynt o hyd. Yr oedd eisiau rhywbeth newydd arnynt yn barhaus. Yr oedd yn rhaid i Eric hefyd wisgo'n drwsiadus i fynd at ei waith. Os oedd rhywun i fyw heb ddillad, Beryl oedd honno. Daeth yr amser pan deimlai hi'n rhy dlodaidd ei gwisg i ymgymysgu â phobl yn y capel, yn y dref, neu ar lan yr afon. Gwelai ferched o'i hoed yn mynd allan yn gwmnioedd llon yn eu dillad heirdd, a hithau'n gaeth ac unig yn yr ystafell fach ar y llofft. Gofynnai iddi ei