Tudalen:Beryl.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hun yn aml a wnaethent yn iawn i adael Cymru a'r ardal lle'r adweinid hwy gan bawb, a dwyn arnynt eu hunain gymaint o ofid a phryder. Ond ar yr un funud, gwyddai fod y caledi mwyaf yn haws ei ddioddef na sarhad a dirmyg eu cymdogion.

Ar ddiwedd y ddwy flynedd, nid oedd ganddynt ond ugain punt ar ôl yn y banc. Dechreuasant feddwl o ddifrif am werthu Maesycoed. Yna daeth tro arall ar eu llwybr.

Yr oedd cangen o Siop Fuller newydd ei hagor yn Buenos Aires. Cafodd Eric gynnig i fynd yno—am flwyddyn i ddechrau. Os gwnâi ei waith yn foddhaol, ceid gwneud cytundeb newydd ag ef ar ben y flwyddyn. Caffai ddewis pa un a arhosai yno ynteu dychwelyd i Gaergrawnt.

Yr oedd ymdrechion Eric i ddiwyllio 'i hun yn dwyn ffrwyth. Heblaw bod yn un da mewn busnes, yr oedd yn well ieithydd na neb yn y siop. Medrai, erbyn hyn, Ffrangeg, Almaeneg, ac Ysbaeneg, heblaw Saesneg a Chymraeg. Ar gyfrif hynny y cynigiwyd iddo'r swydd newydd bwysig. Os âi i Buenos Aires, byddai ei gyflog yn bedwar cymaint, a'i ragolygon yn ddisglair iawn. Byddai'r antur a'r profiad yn bethau godidog.