Tudalen:Beryl.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth y tŷ, a deall fod ei berchen,—y dyn o America,—yn yfed te gyda'u tad a'u mam. Y dyn â'r gôt wen a'r cap gwyn a welsent ar yr heol cyn dyfod at y tŷ oedd y gyrrwr. Dywedodd Let wrthynt ei fod ef wedi cael ei de ac wedi mynd am dro. Wedi iddynt hwythau gael eu bwyd a'u gwneud eu hunain yn drwsiadus, cawsant fynd i weld y gŵr dieithr.

Deallasant ar unwaith mai dyn rhagorol oedd, oherwydd un o'r pethau cyntaf a ddywedodd wrthynt wedi ysgwyd dwylo oedd: "Nawr, pwy garai ddod am dro yn y modur?"

Gan mai'r prynhawn hwnnw oedd unig gyfle'r tri a oedd yn yr ysgol, trefnwyd eu bod hwy a'u mam a Mr. Goronwy i fynd. Câi Mr. Arthur gyfle trannoeth. Nid oedd Geraint ac Enid yn ddigon hen i gael mwynhad mewn modur.

Y mae'r dydd yn hir ym mis Mai, a Natur yn ei gogoniant. Cawsant amser braf. Cafodd Eric eistedd tu flaen gyda'r gyrrwr. Er ei bod yn chwech o'r gloch arnynt yn cychwyn, aethant hyd Aberilin,—pellter o ugain milltir. Cawsant awr o amser i aros yno ar lan y môr, ac yr oeddynt yn ôl drachefn am hanner awr wedi wyth.

Penderfynodd Eric y byddai yntau, ryw ddydd, yn berchen modur hardd fel hwnnw.