Tudalen:Beryl.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cafodd y tri aros ar lawr y noson honno hyd ddeg o'r gloch, a chawsant hefyd adael eu gwersi, er y gwyddent hwy a'u rhieni y byddai'n rhaid talu am hynny rywbryd. Ond efallai na châi neb ohonynt fod yng nghwmni Mr. Goronwy eto. Byddai Môr Iwerydd rhyngddynt ymhen ychydig ddyddiau, ac nid oedd gan Mr. a Mrs. Arthur ddim gwerthfawrocach na'u plant i'w ddangos i'w hen ffrind.

Yr oedd Eric, erbyn hyn, yn hollol rydd yng nghwmni'r gŵr dieithr. Holai a chroesholai ef am America, am New York, ac am ei waith. Dywedai, fel pe na bai amheuaeth o gwbl ynghylch y peth, y byddai yntau yn ddyn cyfoethog ryw ddydd. Doctor oedd ef yn mynd i fod, ond nid doctor cyffredin, wrth gwrs. Byddai'n sicr o ddyfeisio rhywbeth pwysig, a deuai arian mawr iddo drwy hynny.

Nid oedd meddyliau am na gwaith na bri na dim arall yn y dyfodol yn blino dim ar Nest. Yr oedd y presennol yn ddigon iddi hi. Yr oedd pawb yn ei charu. Edrychai ei llygaid glas, siriol, yn ffyddiog ar bawb. Yr oedd yn ferch fach hardd iawn. Diau y gwyddai hynny. Yr oedd pawb a'i gwelai yn rhy barod i ddywedyd hynny wrthi, ond nid oedd y wybodaeth, hyd yn hyn, wedi tynnu dim oddi wrth ei naturioldeb a'i swyn.