Tudalen:Beryl.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Weithiau, ar draws y rhagolwg hudol hwn, deuai meddwl arall o rywle yn sydyn a dirybudd. Fe'i câi Beryl ei hun yng nghegin y Gelli, yn unig wrth y tân ar ddiwedd dydd, popeth yn lân a chryno yn yr ystafell, a thri phlentyn bach hapus yn cysgu'n felys yn eu gwelyau clyd ar y llofft. Synnai Beryl ati ei hun. "Dyna lodes ryfedd wyf fi !" oedd ei meddwl mynych. Pa faint a fyddai syndod pobl eraill pe gwyddent!

Yr haf hwnnw, aeth y teulu'n gyfan,—y rhieni a'r plant a Let y forwyn,—i lan y môr am fis. I un o'r pentrefi bach tlws sydd ar lan Bae Ceredigion yr aethant. Cawsant fwthyn gwyngalchog, to gwellt, i fyw ynddo am y mis. Nid oedd ynddo ddim ond digon o ddodrefn at eu gwasanaeth hwy, a da oedd hynny, neu ni buasai yno le iddynt i gyd. O, dyna amser braf a gawsant yn y bwthyn hwnnw! Dwy ystafell

Dwy ystafell oedd iddo ar y llawr, a thaflod, wedi ei rhannu'n ddwy ystafell uwchben, a dwy ffenestr yn y to. Yr oedd holl ffenestri'r bwthyn bach yn agored ddydd a nos, a llenwid y lle gan aroglau a murmur y môr. Allan ar y traeth, neu ar y creigiau, neu yn y dŵr y treuliai'r plant eu holl amser. Yr oedd llawer o ymwelwyr yn y pentref bach, a deuai llawer yno bob dydd