Tudalen:Beryl.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn cerbydau, a dychwelyd yn yr hwyr. Yr oedd yno ddigon o swynion ac o ddifyrrwch i lanw'r dydd. Amser i ymryddhau oddi wrth bob gofal a phob gwaith oedd y mis hwnnw. Anghofiodd Eric ei gynlluniau; daeth y chwarae oedd yn natur Beryl i yrru ymaith ei breuddwydion; tynnai Nest fwy o sylw nag erioed â'i thlysni. Nid oedd neb a hoffai lan y môr yn fwy na Geraint ac Enid. Dillad bachgen oedd am Geraint erbyn hyn. Cyn iddo gael y dillad hynny, yr oedd yn anodd dywedyd ar unwaith pa un oedd Geraint a pha un oedd Enid. Dyna ddau fach annwyl oeddynt ! Yr oedd wyth mlynedd o wahaniaeth rhyngddynt â Nest,—yr ieuangaf o'r plant eraill. Nid rhyfedd, felly, fod y tri eraill, a'r fam a'r tad hefyd, yn hanner addoli'r ddau.

Pan aethant adref ar derfyn y mis, yr oedd y môr a'r haul a'r gwynt wedi gadael eu hôl ar eu hwynebau. Teimlent bob un yn gryf ac iach i wynebu ar y gaeaf a'i waith.

Y gaeaf yw'r amser i weithio, pan yw'r nos yn hir a thŷ a thân yn felys. Bu gweithio caled ym Modowen y gaeaf hwnnw. Yr oedd un ystafell yn y tŷ at wasanaeth Beryl, Eric a Nest, fel y caffent lonyddwch at eu gwersi. Nid oedd gan Nest gymaint o waith