â'r ddau arall, ond ni oddefai eu rhieni i neb o'r plant weithio'n ddidor hyd amser gwely. Bob nos, o chwech i saith, Nest oedd biau'r awr. Yr oedd wedi dechrau cael gwersi gan athro o Lanilin ar ganu'r piano. Câi Beryl ac Eric wrando neu fynd allan tra fyddai hi'n ymarfer ei gwersi ar yr hen harmonium oedd yno.
Yr oedd dydd pen blwydd Nest ar yr ugeinfed o Hydref. Cafodd ryw rodd fechan yn y bore gan bob un o'r teulu ond ei thad a'i mam. Dywedasant hwy wrthi y câi eu rhodd hwy y prynhawn hwnnw wedi dyfod o'r ysgol. Brysiodd Nest adref. Yr oedd tair o'i ffrindiau yn dyfod gyda hi i gael te. Brysiodd Beryl ac Eric hefyd. Yr oeddynt hwythau mor awyddus â Nest i weld beth oedd y rhodd. Beth a welsant ond piano hardd! Dyna falch oeddynt i gyd! Dyna hapus oedd Nest! "O, nhad a mam annwyl," ebe hi, "mi fynnaf ddod yn gantores dda, yna caf dalu'n ôl i chwi."
Blwyddyn o baratoi at bethau mawr, yn wir, oedd y flwyddyn honno.