VIII.
Gwelwn hiraeth fel goleuni euraid
Yn nhawel eigion ei duon lygaid,
Yn cynnau—rhoddi cannaid ddisgleirdeb
Ar wedd ei hwyneb yr oedd ei henaid.
—T. GWYNN JONES.
"NI chaiff neb ein gwahanu. Yr wyf fi'n mynd i gadw cartref inni."
Geiriau Beryl oeddynt. Yr oedd gŵr a gwraig o'r ardal a chyfreithiwr o Lanilin ym Modowen. Daethent yno i geisio trefnu rhywbeth ar gyfer dyfodol y pum plentyn amddifad. Yr oedd ewyllys Mr. Arthur gan y cyfreithiwr, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r arian a nodid ynddi wedi mynd. Yr holl eiddo oedd ar ôl oedd dodrefn y tŷ, pedwar ugain punt yn y banc, a Maesycoed, —tŷ bach a gardd yn ardal Bryngwyn, tua thair milltir tuhwnt i Lanilin.
Aethai Eric a Nest y bore hwnnw ar neges i'r dref; felly, dim ond Beryl oedd yno i siarad â'r ddau ddyn dieithr. Deuai lleisiau llon Geraint ac Enid o'r gegin. Yr oedd Let yno gyda hwy.
"Fel y gwelwch, merch i," meddai'r cyfreithiwr, "nid yw'r cwbl sydd ar ôl eich tad a'ch mam yn llawer ichwi eich pump fyw