arno. Ond peidiwch â gofidio. Y mae gennyf fi gynnig da i'w roi i chwi, neu efallai y rhydd Mr. Lewis y cynnig o'ch blaen.'
Na, rhowch chwi ef, os gwelwch yn dda," ebe Mr. Lewis.
Wel, yr ydych yn adnabod Mr. a Mrs. Lewis, Miss Arthur, a gwyddoch fod ganddynt ddigon o arian. Y maent yn awyddus iawn i gael y bachgen bach Geraint i'w fagu'n fab iddynt hwy. Nid oes eisiau imi eich sicrhau y bydd Geraint yn lwcus. Wel, y mae brawd Mrs. Lewis,—Mr. Bowen a'i wraig o Aberilin, y mae siop fawr ganddynt yno,—yn barod i gymryd yr eneth fach. Bydd hithau, yr wyf yn siwr, yn lwcus iawn. Deuwch chwi eich tri,—Eric a Nest a chwithau,—i ennill yn fuan iawn. Cawn drefnu eto beth fydd orau i'w wneud ynglŷn â chwi. Yr oeddwn am setlo mater y ddau fach hyn i gychwyn."
Tra bu'r cyfreithiwr yn siarad, ac ar ôl iddo dewi, edrychai Beryl i ryw bellter o'i blaen a'i hwyneb fel wyneb y Forwyn Fair. Yr ydych yn falch, mi wn," ebe'r cyfreithiwr eto, er, wrth gwrs, ni all na fydd hiraeth arnoch."
"Bydd croeso i'r tri arall ddod i weld Geraint ac Enid bryd y mynnont," ebe Mrs. Lewis.