Tudalen:Beryl.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna troes Beryl ei llygaid dwys ar y ddau ddyn a'r wraig, a dywedodd yn dawel:

"Ni chaiff neb ein gwahanu. Yr wyf fi'n mynd i gadw cartref inni."

Cyn i neb o'r tri fedru dywedyd gair, gan syndod, dywedodd Beryl eto:

"O, maddeuwch imi am siarad mor fyr ac am ymddangos mor anniolchgar. Yr wyf yn diolch yn fawr ichwi i gyd. Ond Ond y mae un peth yn glir imi. Fi sydd i ofalu am y ddau fach a chadw cartref inni i gyd. Hyn a fuasai dymuniad nhad a mam."

"Miss Arthur annwyl!" meddai'r cyfreithiwr, "yr ydych wedi pasio mor uchel, buasai'n drueni ichwi beidio â mynd i'r coleg mwy."

"A sut gellwch chwi gadw cartref a chwithau heb fod yn gyfarwydd â gwaith tŷ?" ebe Mrs. Lewis.

"Ac o ba le y daw'r arian at hynny?" ebe Mr. Lewis.

Methodd Beryl â chadw'r dagrau'n ôl. Wylodd yn ddistaw am dipyn, yna sychodd ei llygaid a dywedodd yn llawn mor benderfynol ag o'r blaen:

"Af fi ddim i'r coleg. Yr wyf yn eithaf siwr beth yw fy nyletswydd. Y mae Maesycoed yn rhydd. Yno'r oedd mam wedi