Tudalen:Beryl.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddwl mynd petai wedi cael byw. Hwnnw fydd ein cartref ni. O, peidiwch a gofyn pam, ond gwn fy mod yn gwneud yn iawn."

Edrychodd y tri arni mewn pen bleth. Gwelsant nad oedd yn bosibl ei throi. Ni allent ei gorfodi. Gwelsant hi'n cymryd pwysau trwm ar ysgwyddau ieuainc iawn. Nid ystyfnigrwydd oedd ar ei gwedd, ond rhyw urddas tawel. Peidiasant â'i gwrthwynebu.

Ceisiwyd gweld pa beth arall y gellid ei wneud. Nid oedd y tri'n mynd i adael Beryl, er iddi wrthod eu cynnig. Trefnwyd ynghylch y peth hwn a'r peth arall.

Daeth Eric a Nest i'r ystafell wedi curo'n ysgafn ar y drws, a daeth Geraint ac Enid ar eu hôl o'r gegin. Yr oedd y pump amddifad yno gyda'i gilydd. Daeth dagrau i lygaid y lleill wrth edrych arnynt. Wylodd Mrs. Lewis yn hidl.

Cofiodd Beryl ei breuddwyd ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd hwnnw'n mynd ddyfod i ben mewn ffordd ryfedd iawn. Yr oedd yn sicr pa beth oedd gwaith ei bywyd i fod. Paratoad at hynny oedd popeth a ddaethai iddi hyd yn hyn. Ac yn gymysg â galar mawr a phryder, yr oedd rhywbeth arall yng nghalon Beryl,—rhywbeth tebyg i dangnefedd.