IX.
Duw'n Iôr wna, drwy lwydni'r nos,
I wedd engyl ymddangos.
—ELFED.
Y NOS Iau cyntaf ym mis Tachwedd, eisteddai Beryl a'i theulu bach wrth y tân ym Maesycoed, eu cartref newydd. Yr oeddynt wrthynt eu hunain am y tro cyntaf. Bu llawer o bobl garedig yn eu helpu i symud, a bu Let yno gyda hwy am wythnos. Yn awr yr oedd hithau wedi mynd. Cawsai le fel morwyn mewn fferm yn ardal y Wern. Wedi dau neu dri diwrnod yn ei chartref, byddai'n dechrau ar ei gwaith yno.
Tŷ bach oedd Maesycoed. Dim ond pedair ystafell oedd iddo,—dwy ar y llawr a dwy ar y llofft. Yr oeddynt yn llawer llai o faint nag ystafelloedd Bodowen. To o lechau oedd iddo, a ffenestri culion. Nid oedd lawnt o'i flaen, dim ond cwrt bychan, a iet fach haearn wedi ei phaentio'n wyrdd yn arwain iddo. Yr oedd gardd fawr tu ôl i'r tŷ, a llwyni cyrens ac eirin Mair a dau bren afalau yn tyfu ynddi. Yr oedd llwyn eirin ar ben un o'r cloddiau a choeden fawr gnau ceffylau yn y cornel uchaf. Daethai Eric â thipyn o'r llwyn syringa, ac o'r llwyn rhosynnau, a'r