Tudalen:Beryl.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd pethau'n drist o'u hôl ac yn ansicr o'u blaen. Troes Eric a Nest yn ôl yn nhro'r ffordd, ac ysgydwodd y tri ddwylo ar ei gilydd. Yna aeth Beryl i'r tŷ at ei gwaith.

"Beryl!" ebe llais bach o'r llofft.

"Beryl!" ebe llais bach arall, meinach. "A gawn ni godi 'nawr?"

Helpodd y ddau fach i wisgo ac ymolchi. Agorodd bob ffenestr yn llydan, a thynnodd ymaith ddillad y gwelyau. Pan oedd y ddau'n cael eu brecwast, eisteddodd gyda hwynt wrth y ford er mwyn eu dysgu sut i ymddwyn. Yr oedd eisiau dywedyd wrth Geraint am beidio â gwneud sŵn â'i wefusau wrth fwyta, ac wrth Enid am ddal y llwy'n iawn wrth fwyta uwd, a'r cwpan yn iawn wrth yfed tê. Nid oes dim yn fwy anfonheddig nag eistedd wrth y ford yn anniben a llarpio'r bwyd rywsut. Mynnai Beryl ddysgu Geraint ac Enid fel y dysgwyd Eric a Nest a hithau.

Ar ôl brecwast, yr oedd digon o waith i'w wneud,―golchi'r llestri, glanhau'r gegin, tannu'r gwelyau, a pharatoi cinio. Rhoes ginio Nest mewn dysgl yn barod, fel na byddai eisiau ond ei dwymo. Felly y gwelsai ei mam a Let yn gwneud. Yr oedd Let wedi golchi popeth cyn ymadael, fel na byddai eisiau i Beryl olchi am yr wythnos gyntaf.