Tudalen:Beryl.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie. Yr oedd mam yn dweud y diwrnod cyn iddi farw mai fi yw'r unig ddyn yn y teulu yn awr," ebe Eric, a dagrau lond ei lygaid.

Felly, cyn pen llawer o ddyddiau, cafodd Eric addewid am le fel prentis yn Siop Hywel,—y siop fwyaf yn Llanilin. Yr oedd i dderbyn cyflog o bum swllt yr wythnos, a'i ginio a'i dê bob dydd.

Bore Llun digon diflas oedd hwnnw. Yr oedd calon Nest yn brudd iawn wrth droi allan o'r tŷ a mynd i ysgol ddieithr i fysg plant ac athrawon dieithr. Ond prudd neu beidio, mynd oedd raid. Yr oedd yr ysgol elfennol yn rhad. Efallai na ellid fforddio ysgol arall iddi byth. Gwell oedd cymryd gafael ar addysg tra fyddai honno o fewn cyrraedd.

Digon prudd ei galon oedd Eric hefyd. Buasai'n hapusach o lawer petai'n mynd i'r Ysgol Sir fel o'r blaen. Lle dieithr iawn iddo oedd siop. Gwaith dieithr oedd yn ei aros. Ni wyddai beth oedd gan y dydd yn ystôr iddo.

Yr oedd calon Beryl yn bruddach fyth. Safodd ar garreg y drws i weld Nest yn mynd i un cyfeiriad ac Eric i gyfeiriad arall. Dechreuent eu byd o ddifrif y bore hwnnw.