XI.
Daeth ton o ryw ddiflastod sydyn i minnau hefyd :
Rhywbeth na wybûm erioed o'r blaen,
Rhywbeth heb iddo enw yn fy iaith.
—WIL IFAN.
DYDD Sul oedd y dydd hapusaf ym Maesycoed. Dyna'r unig ddydd yn yr wythnos y câi'r teulu bach fod gyda'i gilydd. Er hynny, am rai Suliau wedi eu dyfod i Faesycoed, teimlent yn bruddach nag arfer, am mai dyn dieithr, ac nid eu tad, oedd yn y pulpud. Ond yr oedd Brynilin a Bodowen a chwmni eu tad a'u mam ymhell o'u hôl erbyn hyn. Yr oeddynt wedi dechrau ar gyfnod newydd. Yr oedd yn rhaid byw eto. Gan mai plant bach dewr oeddynt, aethant yn drech na'u gofid a'u galar.
Bob Sul yn ystod y gaeaf cyneuai Beryl dân yn y parlwr. Yno'r oedd y llyfrau a'r piano. Plant oedd yn hoff o ddarllen a chanu a hoff o gwmni ei gilydd oeddynt hwy. Yr oeddynt fel pe'n mynd yn ôl i'w bywyd ym Modowen bob dydd Sul. Anghofiai Beryl ac Eric nad byd llyfrau oedd bellach eu byd hwy. Medrai pob un ohonynt ganu. Weithiau, arhosai pobl ar yr heol o flaen y tŷ i wrando arnynt yn