Tudalen:Beryl.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canu emyn gyda'i gilydd,—Nest yn canu Soprano ac yn canu'r piano'r un pryd, Beryl yn canu Alto, ac Eric yn canu Tenor, a Geraint ac Enid yn gwneud eu gorau i helpu Nest.

Un nos Sul, yn union wedi iddynt orffen canu emyn felly, clywsant guro sydyn ar y drws. Aeth Eric i'w agor.

"O, Mr. Morgan! Dewch i mewn, os gwelwch yn dda," ebe Eric.

Mr. Ieuan Morgan o Lanilin oedd. Adwaenai Eric ef, er mai newydd ddyfod i fyw i Lanilin oedd, a dywedodd ei enw wrth Beryl a Nest. Ysgydwodd Mr. Morgan law yn serchog â hwy i gyd ac eisteddodd yn gartrefol yn eu canol.

"Dyma'r ail nos Sul imi ddigwydd mynd heibio a chlywed eich canu swynol," ebr ef, "ac ni allwn beidio â dod at y drws. Yr ydych yn canu'n rhagorol. Pa un ohonoch yw'r Soprano?"

Gwenodd Nest arno mewn atebiad.

Merch annwyl i! A wyddoch chwi fod trysor o lais gennych? Rhaid ichwi beidio â'i guddio. Teimlaf yn siwr, os dysgwch ei drin yn iawn, y deuwch yn enwog fel cantores ryw ddydd."

Gwridodd Nest о dan edrychiad syn Mr. Morgan. Edrychai'n harddach nag arfer