Tudalen:Beryl.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno yn ei dillad duon a'i gwallt euraid yn cyrlio o gylch ei thalcen ac ar ei gwddf gwyn, a rhyw belydr yn ei llygaid ar ôl canu.

Edrychai Beryl hefyd yn syn ar ei chwaer. Daeth lleithder i'w llygaid ac ing sydyn i'w chalon. Cafodd un drem i'r dyfodol,—Nest yn harddach, harddach; yn esgyn, yn esgyn; yn troi mewn cwmni da; yn gyfoethog; yn enwog; yn eilun y torfeydd. Hithau â'r drysau aur ynghau o'i blaen.

Dim ond fflach ydoedd. Nid oedd dim lle i genfigen yng nghalon Beryl. Ei chwaer fach fwyn oedd Nest. Gorau oll po wynnaf y byddai ei byd. Yr oedd ganddi hithau ei gwaith. Yr oedd rhai annwyl yn dibynnu arni.

"Ai chwi oedd yn canu Alto?" ebe Mr. Morgan wrthi.

"Ie, ond nid yw fy llais i fel un Nest, ond yr ydym bob un yn hoff o ganu," ebe Beryl.

Gofynnodd Mr. Morgan iddynt ganu emyn gyda'i gilydd drachefn. Wedi eu canmol eto, dywedodd ei fod wedi dechrau ffurfio Côr Plant ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Aberilin. Byddai'n dda ganddo os ymunent â'i gôr. Rhai o dan un ar bymtheg oed oedd aelodau'r côr i fod. "Efallai bod Miss Arthur dros yr oed. Beth amdanoch chwi, Eric?"