XII.
A cheisio'r goleuni o fore hyd hwyr
A wnaf i, tra fyddwyf, nes blino yn llwyr;
A Duw, o'i drugaredd, a ddengys i mi
Lesni ffurfafen sêr eirian di-ri;
A dyna'r glas yn fy mywyd i.
—IORWERTH CYFEILIOG PEATE.
Daw rhyw les inni yn fynych iawn o bethau a deimlwn sydd fwyaf yn ein herbyn. Nid yw'r nos dywyllaf heb ei sêr.
Digon prudd y teimlai Beryl ar y troeon cyntaf pan âi Eric a Nest i'r Ysgol Gân. Yr oedd ganddi galon fawr garedig, neu buasai'n cenfigennu wrthynt. Caent lawer o bleser yn yr Ysgol Gân, a llawer o addysg hefyd. Caent gyfle i wneud llawer o ffrindiau newyddion. Cychwynnai Nest o'r tŷ am chwech o'r gloch. Yr oedd mab a merch Penlan, y tŷ nesaf at Faesycoed, yn gwmni ganddi i fynd, a byddai Eric gyda hwy yn gwmni i ddychwelyd. Anaml y byddent yn y tŷ cyn chwarter wedi naw.
Yr oedd gan Beryl, felly, dros dair awr o amser ar nosweithiau tywyll gaeaf i fod heb gwmni yn y tŷ ond Geraint ac Enid. Am yr awr gyntaf ni byddai'n bosibl iddi deimlo'n unig. Gwnïo a wnâi fynychaf am yr awr