Tudalen:Beryl.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honno, ac ar yr un pryd dysgu'r ddau fach i ddarllen neu ysgrifennu neu ganu; neu dysgai ryw chwarae newydd iddynt. Am saith o'r gloch, caent hwy fynd i'w gwelyau.

Yna deuai Beryl yn ôl i'r gegin,—cegin wag a distaw. Byddai'r drws wedi ei gloi ers awr. Ni chyffesai fod ofn arni, ond fe'i câi ei hun yn gwrando ar bob sŵn. Gwnâi'r gwynt, weithiau, sŵn rhyfedd yn y ffenestri, yn nhwll y clo, ac yn y llwyni o flaen y tŷ. Weithiau clywai gerdded yr heol, dychmygai glywed rhywun yn dyfod at y drws. Y noson gyntaf honno, methodd â theimlo'n ddigon tawel i wnïo, a methodd a chadw ei meddwl ar ddim a ddarllenai.

Pe buasai Beryl yn ferch wan ei hewyllys, buasai wedi digalonni ar ôl y tro cyntaf hwnnw. Buasai wedi addef wrth Eric a Nest fod arni ormod o ofn aros gartref ei hun gyda'r plant. Buasent hwythau wedi treio'u gorau i guddio'u siom a dywedyd nad aent mwy i'r Ysgol Gân,— neu, o leiaf, y câi Eric fynd, ac yr arhosai Nest gartref.

Ond nid felly y gwnaeth Beryl.

Tua chwarter wedi naw, dyna lais melodaidd Nest a llais dyfnach Eric yn siarad â'i gilydd wrth agor yr iet fach. O, dyna falch eu clywed oedd Beryl!