Tudalen:Beryl.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Beth amdanoch chwi eich dau, ynteu? ebe Nest.

"Y mae Beryl a minnau wedi cael addysg Ysgol Sir," ebe Eric, ac yr ydym yn parhau i ddysgu o hyd. Rhaid i tithau gael yr un chwarae teg â ninnau o leiaf, a chawn weld beth a ddaw wedyn."

"Ond o ble daw'r arian, blant bach? Cofiwch am Geraint ac Enid. Bydd eisiau rhywbeth ar eu cyfer hwy," ebe Nest.

"Ymhell cyn deui di allan o'r Ysgol Sir, byddaf fi'n ennill digon fel na bydd eisiau pryderu," ebe Eric.

"Byddi dithau'n ennill arian mawr wedi cael ysgol a choleg, a chei dithau helpu wedyn," ebe Beryl.

"O dîr! Chwi eich dau yw'r meistr a'r feistres, mae'n debyg, a rhaid imi ufuddhau," ebe Nest, a gwenu'n fwyn ar ei brawd a'i chwaer.

Rhoes Beryl ei breichiau amdani a'i gwasgu at ei chalon. "Nid rhyfedd," meddai wrthi ei hun, "fod pawb mor hoff o Nest. Y mae mor annwyl ac mor bert."

Felly, yn ystod y flwyddyn ddilynol, aeth Eric i Lanilin fel arfer, Nest i Dregwerin, a Geraint ac Enid i Aelybryn. Tua'r un pellter